Ci pigog

Spurdog

Spurdog ©Peter Verhoog

Ci pigog

Enw gwyddonol: Squalus acanthias
Mae'r siarc main yma’n cael ei enw o'r pigau o flaen ei asgell ddorsal. Gall ddefnyddio'r pigau yma i amddiffyn ei hun drwy gyrlio mewn bwa a tharo ysglyfaethwr.

Species information

Ystadegau

Hyd: Hyd at 1.6 m
Pwysau: Hyd at 9.1 kg
Oes Ar Gyfartaledd: Gall fyw am hyd at 75 mlynedd

Statws cadwraethol

Mae'r ci pigog wedi'i restru fel rhywogaeth Agored i Niwed ar Restr Goch yr IUCN ac mae'n Rhywogaeth Blaenoriaeth o dan Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU.

Pryd i'w gweld

Yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.

Ynghylch

Mae’n cael ei alw hefyd yn forgi pigog, ac mae'r ci pigog yn ysglyfaethwr sy'n bwydo ar bysgod esgyrnog, ac weithiau siarcod llai hyd yn oed! Mae'n rhywogaeth fudol sy'n treulio misoedd y gaeaf mewn dŵr dwfn, a misoedd yr haf mewn dyfroedd arfordirol cynnes.

Maent yn teithio mewn grwpiau yn aml, sy'n eu gwneud yn darged haws i bysgodfeydd. Mae'n anodd i'r siarcod hyn adfer ar ôl gorbysgota, oherwydd eu bod yn araf iawn yn atgenhedlu, yn cael 1 torllwyth o rai bach bob 2 flynedd fel rheol.

Sut i'w hadnabod

Mae gan y ci pigog drwyn pigfain, llygaid mawr, a phigau o flaen ei esgyll dorsal. Mae ei gorff main yn lliw llwyd/brown ar y top gyda bol goleuach a rhesi o smotiau gwyn i lawr ei ochrau.

Dosbarthiad

I’w weld ym Môr Iwerddon a gogledd ddwyrain yr Iwerydd, ac mewn dyfroedd tymherus ledled y byd.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae gan y ci pigog benywaidd un o'r cyfnodau beichiogrwydd hiraf ymhlith unrhyw famaliaid asgwrn cefn - mae'n para rhwng 18 a 22 mis.

Sut y gall bobl helpu

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gyda defnyddwyr y môr, gwyddonwyr, gwleidyddion a phobl leol tuag at weledigaeth o 'Foroedd Byw', lle mae bywyd gwyllt morol yn ffynnu. Gwnewch eich rhan dros ein Moroedd Byw drwy gefnogi eich Ymddiriedolaeth Natur leol neu edrychwch ar ein Tudalennau Gweithredu.