Morgath Ddreiniog

Morgath Ddreiniog

Enw gwyddonol: Raja clavata
Y forgath fwyaf gyffredin i’w gweld o amgylch Ynysoedd Prydain. Mae'n hawdd gweld o ble cafodd y forgath styds ei henw - edrychwch ar y pigau ar ei chefn!

Species information

Ystadegau

Hyd: Hyd at 139cm
Pwysau: Hyd at 18kg
Oes Ar Gyfartaledd: Gall fyw am tua 15 mlynedd

Statws cadwraethol

Mae'r forgath styds wedi'i rhestru fel Agos at Fygythiad ar Restr Goch yr IUCN.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Yn perthyn yn agos i siarcod, mae gan forgathod sgerbwd cartilag meddal hefyd. Mae eu hesgyll pectoral sy’n llawer rhy fawr yn rhoi eu siâp diemwnt unigryw iddyn nhw ac yn gweithredu ychydig fel adenydd tanddwr. Mae morgathod styds i'w gweld o amgylch holl arfordiroedd Prydain ac maen nhw’n bwydo'n bennaf ar gramenogion, ond maen nhw’n fwy na pharod i fachu unrhyw bysgod sy'n nofio’n rhy agos atyn nhw hefyd! Mae'r forgath styds yn hoffi claddu ei hun yn y llifwaddod yn ystod y dydd a dod allan yn y gwyll i hela.

Sut i'w hadnabod

Gyda chorff siâp barcud nodedig, mae posib adnabod y forgath styds oddi wrth ei chefn brown neu lwyd blotiog hefyd, a'r casgliad o 'bigau' ar ei chefn a'i chynffon. Mae gan rai rhywogaethau eraill o forgathod bigau hefyd ond y forgath styds sydd â'r nifer mwyaf.

Dosbarthiad

Mae i’w gweld o amgylch holl arfordiroedd Prydain er yn llai aml ar hyd Dwyrain yr Alban a Lloegr.

Roeddech chi yn gwybod?

Er bod eu gên yn fach mae’n hynod bwerus, gan alluogi iddyn nhw wasgu drwy gregyn crancod a chramenogion eraill yn rhwydd.