Heulseren gyffredin

Common Sunstar

Common Sunstar ©Linda Pitkin/2020VISION

Heulseren gyffredin

Enw gwyddonol: Crossaster papposus
Mae'r seren fôr fawr yma’n edrych yn union fel yr haul, gyda 10 i 12 braich yn ymledu allan fel pelydrau.

Species information

Ystadegau

Diameter: 35cm

Statws cadwraethol

Common

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Math o seren fôr yw'r heulseren gyffredin, gyda 10 i 12 braich fer sy'n edrych fel pelydrau'r haul. Mae ganddi ddisg oren-goch (y canol) gyda bandiau consentrig hardd o felyn, oren, pinc neu wyn. Mae'r heulseren gyffredin yn ecinoderm - sy'n golygu "croen pigog" ac mae'n driw i’r enw yma gan ei bod wedi'i gorchuddio â phigau bach. Mae'n byw ar wely'r môr mewn dyfroedd bas yn agos at y lan, yn ogystal ag i lawr i ddyfnder o 50m. Mae heul-sêr bach i’w canfod weithiau mewn pyllau creigiog, felly cadwch lygad amdanyn nhw y tro nesaf y byddwch chi ar y traeth.

Sut i'w hadnabod

Mae'r heulseren gyffredin yn lliw oren-goch fel rheol gyda bandiau consentrig o felyn, pinc, coch neu wyn ar y breichiau. Mae'n siâp haul, gyda mwy o freichiau na sêr môr eraill: 10 i 12 fel rheol, ond 8 i 16 weithiau.

Dosbarthiad

I'w chanfod o gwmpas ein harfordiroedd.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae'r heulseren gyffredin yn ysglyfaethwr ffyrnig, yn bwydo ar giwcymbrau môr, sêr brau, sêr môr a heul-sêr eraill hyd yn oed!